Rhif y ddeiseb: P-06-1250

Teitl y ddeiseb: Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru

Geiriad y ddeiseb:

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i’r cyhoedd sy’n byw yng nghanolbarth Cymru deithio rhwng 30 a 50 o filltiroedd i gyrraedd y cyfleuster ysbyty agosaf.

Rydym yn dibynnu ar ysbytai Lloegr a gofal sylfaenol y tu allan i oriau yn Lloegr (shropdoc - www.shropdoc.org.uk) ar gyfer gofal.

Yn ddiweddar, mae ambiwlansys yn ardal canolbarth Cymru wedi cymryd hyd at 5 awr i gyrraedd cleifion y mae’n amlwg eu bod mewn helynt, gyda bywyd yn y fantol weithiau.

Mae ein cyfleusterau meddygol sylfaenol yn yr ardal yn cael trafferth ymdopi.


1.        Y cefndir

1.1.            Y gwasanaethau iechyd presennol ar gyfer poblogaeth Powys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (THB) yn darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer 133,000 o bobl sy'n byw ym Mhowys, sef sir wledig fawr o 2000 milltir sgwâr, sydd oddeutu chwarter arwynebedd tir Cymru.

Mae’r Bwrdd Iechyd Addysgu ei hun yn darparu gofal i'w drigolion ym Mhowys drwy naw ysbyty cymuned ynghyd â chanolfannau iechyd a gofal a chlinigau eraill. Mae gan Bowys, fodd bynnag, gyfres gymhleth o lwybrau gofal iechydsy’n rhychwantu Cymru a Lloegr, ac mae’r Bwrdd Iechyd yn datgan:

Mae natur wledig iawn Powys yn golygu bod mwyafrif y gwasanaethau lleol yn cael eu darparu'n lleol, trwy feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol. Ond gydag ardal mor denau ei phoblogaeth nid oes gennym y màs critigol o bobl yn lleol i ddarparu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth o fewn Powys. Felly, rydym yn talu i drigolion Powys dderbyn gwasanaethau ysbyty arbenigol mewn ysbytai y tu allan i'r sir yng Nghymru a Lloegr.

Rydym bob amser yn ymdrechu i ddod â chymaint o wasanaethau â phosibl yn ôl i Bowys, gan gynnwys asesiadau a chamau dilynol ar ôl triniaeth.

Mae Cynllun Tymor Canolig Integredig 2020-21 i 2022-23 Bwrdd Iechyd Addysgu Powys hefyd yn nodi:

The residents of Powys form part of the catchment areas for Accident and Emergency Department provision at several of the bordering District General Hospitals including the Royal Shrewsbury Hospital, Hereford Hospital, Bronglais Hospital in Aberystwyth, Wrexham Maelor Hospital, Morriston Hospital in Swansea, Glangwili Hospital in Carmarthen, Nevill Hall Hospital in Abergavenny and Prince Charles Hospital in Merthyr Tydfil. An even wider range of bordering providers in England and Wales are used by Powys residents for other planned and urgent care referrals and specialist care.

Ar hyn o bryd mae gwasanaethau Gofal Sylfaenol y tu allan i oriau ym Mhowys yn cael eu darparu gan Shropdoc, sydd â chanolfannau gofal sylfaenol mewn ysbytai cymuned yn Aberhonddu, Llandrindod, y Drenewydd a'r Trallwng.

 

1.2.          Safonau gwasanaeth

Mae gan y Bwrdd Iechyd gyfrifoldeb i sicrhau bod gan ei boblogaeth fynediad amserol at ofal iechyd diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel yn y lleoliad mwyaf priodol. Wrth edrych ar yr achos o blaid cael Ysbyty Cyffredinol Dosbarth acíwt llawn, mae canllawiau ac argymhellion clinigol a phroffesiynol y byddai angen i'r Bwrdd Iechyd Addysgu eu hystyried, gan gynnwys o ran sicrhau bod digon o staff a llwyth gwaith clinigol ar gael. Mae hyn yn cynnwys:

§  Yn 2019 cyhoeddodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM) ei argymhellion o ran staff ymgynghorol mewn adrannau achosion brys (ED). Diffiniodd y Coleg am y tro cyntaf y dylai fod o leiaf un Meddyg Ymgynghorol cyfatebol llawn amser ar gyfer rhwng 3,600 a 4,000 o bobl sy’n bresennol o’r newydd bob blwyddyn, gan ddibynnu ar gymhlethdod y llwyth gwaith a gwasanaethau clinigol cysylltiedig y mae Adrannau Damweiniau ac Achosion brys yn gyfrifol amdanynt. Byddai angen cymorth staff meddygol nad ydynt yn ymgynghorwyr ar y Meddyg Ymgynghorol hefyd. Mae’r data cyhoeddedig  mwyaf diweddar ar gyfer adrannau brys (Mai 2021) yn dangos presenoldeb misol o 942 ar draws holl ysbytai Powys.

§  Nid yw’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn argymell meintiau na dwyseddau poblogaeth penodol ar gyfer pob Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys. Dylid trefnu darpariaeth gofal brys o amgylch anghenion y boblogaeth leol. Dylid nodi, fodd bynnag, er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd gweithredol mwyaf posibl a'r defnydd gorau o'r adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer sefydlu Adran Ddamweiniau, dylai'r Adran weld tua 45,000 neu ragor o gleifion y flwyddyn.

§  Yn 2012, roedd Y Cyfluniad Gorau o Wasanaethau Ysbytai i Gymru: Adolygiad o'r Dystiolaeth – Ansawdd a Diogelwch sef cyhoeddiad Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru yn nodi bod:

The Royal College of Physicians and the Royal College of Surgeons have stated that high-quality emergency medicine and surgery services need a critical mass of medical consultants and a minimum amount of immediately available diagnostic equipment and treatment facilities. The Royal College of Surgeons recommends that a safe major Accident and Emergency department should service a population of no fewer than 300,000 (Royal College of Surgeons, 2008).

§  Yn 2006, cyhoeddodd Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr (a Chymru) adroddiad cychwynnol ar ad-drefnu gwasanaethau, a oedd yn dwyn y teitl Darparu gwasanaethau llawfeddygol o ansawdd uchel ar gyfer y dyfodol. Roedd yr adroddiad hwn yn honni, ar gyfer ysbyty acíwt neu ysbyty ardal cyffredinol sy’n darparu’r amrywiaeth lawn o gyfleusterau, staff arbenigol ac arbenigedd ar gyfer gofal meddygol a llawfeddygol dewisol a brys bod angen poblogaeth o rhwng 450,000 a 500,000 o drigolion. Fodd bynnag, lle bo hynny’n ymarferol, dylai ysbytai llai uno i gyflawni poblogaeth ddalgylch o 300,000 o leiaf, er bod yr adroddiad wedi nodi anhawster i ddatblygu rhwydweithiau clinigol effeithiol ar draws gormod o safleoedd ysbyty gwahanol.

§  Roedd yr un adroddiad hefyd yn nodi bod ar Adran Damweiniau ac Achosion Brys sy’n agored drwy’r dydd, bob dydd o’r flwyddyn ac sy’n gweithredu’n llawn (h.y. canolfan sy'n derbyn pob argyfwng) angen más poblogaeth critigol er mwyn darparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o wasanaethau cymorth clinigol.

1.3.          Amseroedd ymateb ambiwlansys

Mae'r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau ambiwlans yn llaw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi gwybodaeth am Dargedau Ymateb Ambiwlansys. Mae targed i Gymru gyfan bod yn rhaid ymateb i 65 y cant o'r galwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol ar unwaith) o fewn 8 munud. Ar gyfer Powys, mae’r ffigurau cyhoeddedig diweddaraf sydd ar gael i’w gweld yn Nhabl 1 isod:

Tabl 1: Perfformiad o ran Galwadau Coch Ambiwlans, Powys a Chymru gyfan, mis Awst 2021 hyd fis Chwefror 2022

Dyddiad

% y galwadau coch a welwyd o fewn 8 munud

 

Powys

Cymru

2022

 

 

Chwefror

52.9

55.0

Ionawr

42.1

52.5

2021

 

 

Rhagfyr

43.0

51.1

Tachwedd

41.8

53.0

Hydref

44.5

50.0

Medi

56.5

52.3

Awst

47.5

57.6

Ffynhonnell: StatsCymru

Cyhoeddir amrywiaeth ehangach o Ddangosyddion Ansawdd y Gwasanaeth Ambiwlans, gan gynnwys amseroedd ymateb i alwadau oren, hefyd gan StatsCymru a Phwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru.

2.     Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb yn egluro:

2.1.          Gwasanaethau iechyd

Ar 31 Mawrth 2022 ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Mae’r llythyr yn adleisio safbwynt Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac yn nodi:

Oherwydd maint y boblogaeth a natur gwledig yr ardal, ni chredir ei bod yn ymarferol sefydlu ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys. Mae’r ffaith bod Powys yn ardal wledig iawn yn golygu bod y rhan fwyaf o wasanaethau lleol yn cael eu darparu’n lleol drwy bractisau meddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol, a gwasanaethau cymunedol. Mae’r bwrdd iechyd wrthi’n ystyried y posibilrwydd o ddod â nifer o wasanaethau cleifion allanol yn nes at adre, gan ddefnyddio gwasanaethau mewngymorth fel nad oes angen i gleifion deithio mor bell. Mae hefyd yn trin nifer o achosion dydd yn lleol, fel nad oes angen fel rheol i glaf deithio i ysbyty cyffredinol ond i gael triniaeth fel claf mewnol. Fodd bynnag, mae’r bwrdd iechyd yn parhau i ymchwilio i sut y gallai ddatblygu’r gwasanaethau hyn ymhellach.

2.2.        Amseroedd ymateb ambiwlansys

Ymateb y Gweinidog oedd:

…mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cydnabod heriau’r gorffennol o ran sicrhau tegwch y gwasanaeth a ddarperir ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae’n anodd rhagweld ffocws y galw ac effeithiau rhwydweithiau ffyrdd, sy’n gallu effeithio ar ba mor gyflym y mae’r ymateb gan y gwasanaeth..

… aeth yr Ymddiriedolaeth ati ym mis Ebrill 2022 i gynnal adolygiad cenedlaethol o sut mae’r ddarpariaeth o adnoddau a’r drefn staffio yn cael eu hamserlennu, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu darparu yn y ffordd fwyaf effeithlon yn ddaearyddol ar gyfer cynnal gwasanaeth ambiwlans brys ymatebol a theg ar draws pob rhan o Gymru.

Mae’r ymateb yn nodi bod asesiad o’r effaith gwledig wedi’i gynnal hefyd, sy’n dangos y bydd pob sir sydd wedi’i dynodi’n siroedd gwledig gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Powys, yn cael rhagor o staff i gefnogi ymateb ambiwlansys amserol yn yr ardaloedd hynny ac:

Dechreuir gweithredu’r drefn newydd ar gyfer yr holl orsafoedd yng Nghymru o fis Medi 2022, ac rwy’n disgwyl i’r Ymddiriedolaeth adolygu’r trefniadau gweithio hynny’n barhaus er mwyn sicrhau tegwch yn y gwasanaeth a ddarperir ar draws pob rhan o Gymru, ac osgoi unrhyw effeithiau negyddol ar y gallu i ymateb, profiadau’r staff a chleifion, a chanlyniadau clinigol.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.